Spectrum

Cuddio-Tudalen@2x

Disgyblion uwchradd

Beth yw Cam-drin?

Cam-drin yw’r gair sy’n ddisgrifio pan nad yw person yn cael ei drin yn y ffordd gywir. Mae sawl math o gam-drin ac mae cam-drin yn gallu cynnwys ymddygiad amharchus tuag at berson neu gam-drin corfforol. Bwli yw person sy’n cam-drin. Yn aml iawn, mae’r cam-drin yn cael ei wneud gan berson y mae’r dioddefwr yn ei hadnabod yn dda, er enghraifft, aelod o’r teulu. Mae cam-drin yn annerbyniol yn enwedig pan nad oes modd gan y dioddefwr amddiffyn ei hunan.

Un math o gam-drin yw Cam-drin Domestig. Pan mae cam-drin yn digwydd o fewn teulu, rhwng oedolion, cam-drin domestig yw’r term.

Dyma’r diffiniad Cam-drin Domestig traws lywodraethol:
Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad bygythiol, gormesol neu orfodi, o drais neu gam-drin rhwng pobl 16 a hŷn sydd neu wedi bod yn bartneriaid mynwesol, neu aelodau o’r un teulu, waeth beth fo’u rhyw neu eu rhywioldeb.Gall cam-drin gynnwys:

  • seicolegol
  • corfforol
  • rhywiol
  • ariannol
  • emosiynol

Pŵer a Rheolaeth

Corfforol

Slapio
Bwrw
Cydio

Emosiynol

Galw enwau
Anwybyddu
Gweiddi

Seicolegol

Cymryd mantais
Dweud celwyddau
Twyllo

Ariannol

Atal mynediad at arian
Eu hatal rhag gweithio

Cam-drin Rhywiol

Cyffwrdd amhriodol
Trais
Noethni gorfodol

Mae pobl yn defnyddio cam-drin er mwyn cael Pŵer a Rheolaeth dros eraill yn union fel bwli.

multicolour-dragon-grafitti-art@2x

Gwybodaeth a chyngor am berthnasau iach ar gyfer pobl ifanc

Gall perthynas gyda phartner fod yn gyffrous. Mae’n gyffrous dod i’w hadnabod a threulio amser gyda nhw ac mae meddwl amdanyn nhw’n wneud i chi deimlo’n hapus. Ond weithiau gall perthynas eich drysu, yn enwedig os ydych chi wir yn hoffi rhywun ond maen nhw’n gwneud pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.

Bydd pobl wahanol yn diffinio perthnasau mewn ffyrdd gwahanol. Er mwyn i berthynas fod yn un iach mae angen rhai cynhwysion allweddol:

Icon of thumbs up in speech bubble

Cyfathrebu Da

Y cam cyntaf i adeiladu perthynas ydy sicrhau eich bod chi’n deall anghenion a disgwyliadau eich gilydd. Os ydy rhywbeth yn eich poeni mae’n well i siarad am y peth yn lle cadw’n dawel.

Icon of hands crossing

Parchu eich gilydd

Mae dymuniadau a theimladau eich partner a’ch hunan yn werthfawr.

Ystyr parchu eich gilydd ydy deall bob pawb yn wahanol a rhaid derbyn bod gan bawb yr hawl i wneud ac i ddweud beth mae nhw eisiau, oni bai bod hynny’n achosi niwed i rywun arall. Pan fydd parch mewn perthynas mae’r ddau bartner â’r rhyddid i fod hwy ei hunan ac felly yn ymddiried yn ei gilydd yn fwy.

Icon of two hands shaking

Cyfaddawdu

Rhan naturiol o berthynas iach ydy anghytuno. Ond mae’n bwysig eich bod yn dod o hyd i ffordd o gyfaddawdu os ydych yn anghytuno. Ceisiwch ddatrys gwrthdaro mewn ffordd deg a synhwyrol.

Icon of two hands holding a heart

Cefnogaeth

Cysurwch ac annog eich gilydd a gadewch wybod i’ch partner pan fydd angen cefnogaeth arnoch. Mewn perthynas iach dylech godi eich gilydd lan nid tynnu eich gilydd i lawr.

Icon of a crossed out eye

Preifatrwydd

Er eich bod chi mewn perthynas does dim rhaid i chi rannu popeth a bod gyda’ch gilydd trwy’r amser. Mewn perthynas iach mae angen amser ar wahân weithiau.

Icon of two people having a conversation

Ffiniau iach

Ffordd dda o gadw perthynas yn iach a sicr ydy creu ffiniau. Trwy osod ffiniau gyda’ch gilydd gallech ddeall yn well y fath o berthynas rydych chi a’ch partner eisiau. Dylai ffiniau ddim gwneud i chi deimlo’n gaeth neu eich bod yn poeni trwy’r amser. Nid arwydd bod cyfrinachau neu ddiffyg parch mewn perthynas ydy creu ffiniau, mae’n ffordd o ddangos beth sy’n gwneud i chi deimlo’n gyfforddus a beth hoffech chi ddigwydd neu beidio â digwydd mewn perthynas.

Cofiwch

  • Rydych chi’n bwysig
  • Does dim rhaid i chi gyrraedd safonau unrhyw un heblaw am eich hunan
  • Mae hawl gennych i ddilyn eich credoau eich hunan
  • Mae hawl gennych i’ch teimladau eich hunan, eich barn eich hunan ac i gael ffrindiau eich hunan
  • Rydych chi’n haeddu cariad a pharch

Cynllun Diogelwch

Mae cynllun diogelwch yn gallu helpu os oes rhywun yr ydych yn/oeddech arfer gweld yn ymddwyn mewn ffordd sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, nerfus, yn peri gofid, yn gwneud i chi deimlo o dan reolaeth neu yn unig. Nod y cynllun diogelwch yw eich helpu chi a’ch sefyllfa a bydd yn eich helpu meddwl am eich diogelwch.

Dylech gwblhau’r cynllun pan ydych yn teimlo o dan reolaeth. Mae’n anodd meddwl yn glir am beth sydd angen gwneud pan ydych yn teimlo’n ofnus neu o dan fygythiad.

Wrth i chi greu eich cynllun diogelwch, meddyliwch am y gefnogaeth sydd ar gael – ffrindiau, teulu, athro, nyrs ysgol neu weithiwr cefnogi. Mae’n holl bwysig bod gennych o leiaf un oedolyn i’ch helpu cwblhau’r cynllun – rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt er mwyn iddynt gefnogi chi wrth feddwl am fod yn ddiogel.

Wrth ysgrifennu’r cynllun, rhaid meddwl am eich diogelwch ym mhob rhan o’ch bywyd:

  • Yn y cartref
  • Yn yr ysgol
  • Tu allan
  • Yn y nos neu yn ystod y penwythnos
  • Ar–lein

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r cynllun diogelwch yn ddiogel. Peidiwch byth â gadael i’r cam-driniwr ddod o hyd iddo. Rhannwch y cynllun â ffrind agos neu aelod o’r teulu a gweithwyr asiantaeth yr ydych yn adnabod yn dda. Linc i’r cynllun diogelwch yma

Enghreifftiau o Berthynas

Darllenwch y sefyllfaoedd isod. Edrychwch ar y cyngor wedi’u hawgrymu yn yr atebion o dan pob un.

1

Sara ydw i a dwi’n 13 oed. Rydw i’n teimlo’n ofnus. Roedd fy llystad yn cicio drws y tŷ ac yn dweud “nei di ddifaru am hyn!” Dau ddiwrnod yn ôl roedd mam wedi dod a phopeth i ben rhyngddynt a symudodd e allan o’r tŷ ddoe. Doedd e ddim wedi bwrw hi heddiw ond mae wedi taflu pethau yn y gorffennol.

Mae’n wneud hwyl am ei phen hi pan rydyn ni’n mynd allan gyda’i ffrindiau ac yn galw enwau arni ac yn gwneud iddi deimlo’n dwp. Dydi hi ddim wedi dweud wrth unrhyw un. Pan symudodd e allan ddoe dywedodd “mi gei di dy gosbi am hyn.” Er bod e wedi mynd rwy’n poeni bydd e’n dod nôl eto.

Cyngor

Cofia NID dy fai di neu dy fam ydy hyn a does dim rhaid i ti deimlo fel hyn. Os wyt ti’n teimlo’n ofnus bod dy lystad yn mynd i ddod nôl, cysyllta â’r Heddlu ar 999.

Pan fydd oedolyn yn bygwth oedolyn arall yn fwriadol neu’n gwneud iddyn nhw deimlo’n dwp byddwn ni’n galw hyn yn Cam-drin Seicolegol. Beth am alw Childline ar 0800 1111? Mae rhywun ar gael i wrando ar y pethau sy’n dy boeni trwy’r amser.

2

Rydw i’n 8 oed a fy enw ydy Jake. Mae fy mamau’n codi ofn arna i, rydw i eisiau help. Mae Mam yn anfon fi i’r gwely ac yna rydw i’n clywed fy mam arall yn crio. Gwelais i gleisiau ar ei breichiau a’i wyneb. Mae’n digwydd yn aml ac mae’n gwneud i fi deimlo’n ofnus ac yn drist.

Cyngor

Mae nifer o bobl yn dadlau weithiau. Pan fydd dadlau yn digwydd yn aml ac yn gwneud i ti boeni, mae’n bwysig i siarad ag oedolyn arall fel athro/athrawes neu fam-gu/tad-cu. Dylai neb deimlo’n ofnus a thrist trwy’r amser. Gallet alw Childline 0800 1111 ac edrych ar y wefan http://echothreshold-das.org.uk/6-11-years-old/

Does dim angen rhoi enw, bydden nhw’n gwrando ar beth sy’n dy boeni. Cofia nid dy fai di ydy hyn.

3

Rydw i’n 16 oed ac yn astudio ar gyfer TGAU. Roedd problemau ariannol gyda fy rhieni ac mae nhw’n dadlau trwy’r amser. Yn ddiweddar rydw i wedi cwrdd â Tom. Mae Tom yn mynd i’r coleg ac yn gwneud i fi deimlo’n arbennig. Ar y dechrau roedd e’n prynu nifer o bethau neis i fi ac yn gwneud i fi deimlo’n bwysig. Roedd e hefyd yn anfon negeseuon ata i drwy’r amser ac eisiau i fi dreulio fy holl amser gyda fe. O ganlyniad roeddwn i’n gweld llai o fy ffrindiau a theulu, ond doedd dim ots gen i. Roedd fy rhieni yn dadlau beth bynnag felly roeddwn i’n mwynhau bod gyda Tom.

Ar ôl ychydig gofynnodd e i fi symud mewn gyda fe. Fe oedd yn gyfrifol am yr arian oherwydd, fel dywedodd e ‘Fi sy’n ennill yr arian felly fi dylai edrych ar ôl yr ochr ariannol.’ Roedd hynny’n wir felly rhoddais i’r arian oedd gen i mewn cyfrif banc ar y cyd ac fe oedd yn edrych ar ôl y garden. Roedd e’n rhoi arian i fi ar gyfer rhai pethau ond pan oeddwn i’n gofyn am arian dywedodd e fod e ddim yn gwybod ble’r oedd y garden neu roedd yn gwneud esgusodion. Mae’n gwneud i fi deimlo’n anghyfforddus ac yn ofnus. Dywedodd fy ffrindiau bod hyn yn Cam-drin Domestig. Ond sut ydy hynny’n wir? Mae’n neis i fi fel arfer? Beth ddylwn i wneud?

Cyngor

Mae dy ffrindiau’n gywir. Cam-drin Domestig ydy hyn. Does dim rheolaeth gyda thi dros dy arian dy hunan. Cam-drin Ariannol ydy gwrthod mynediad at arian. Mae dy gariad yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod ganddo’r pŵer a rheolaeth yn y berthynas. Dydi perthynas iach ddim yn gwneud i rywun teimlo’n ofnus.

Cer i siarad ag oedolyn cyfrifol gyda ffrind. Mae hefyd nifer o wefannau a llinellau gymorth sy’n gallu helpu gan gynnwys bywhebofn.org.uk 0808 80 10 800 sef llinell gymorth Cymru gyfan ar gyfer Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

4

Rydw i’n 16 oed ac mewn perthynas. Ar hyn o bryd mae pethau’n anodd. Dydi fy nghariad ddim yn hoffi pan rwy’n anfon negeseuon at bobl eraill. Mae hi’n fy nghyhuddo o fflyrtio gyda merched eraill a phethau fel hynny, felly mae’n haws i fi aros yn y tŷ. Dydw i ddim yn gweld fy ffrindiau neu hyd yn oed fy mam a fy mrawd yn aml o gwbl hyd yn hyn. Mae hi’n rhegi ata i ac yn galw enwau arna i yn aml, doedd hi ddim fel hyn ar y dechrau. Dydw i ddim wedi dweud wrth unrhyw un, dydi pethau fel hyn ddim yn digwydd i fechgyn.

Cyngor

O beth rwyt ti wedi disgrifio, mae’n debygol iawn dy fod di’n profi cam-drin domestig. Dydi cam-drin domestig ddim yn gorfforol bob tro, gallai fod yn emosiynol. Rwyt ti’n disgrifio bod dy gariad yn genfigennus ac yn ceisio dy reoli. Beth am siarad â dy ffrindiau a theulu am beth sy’n digwydd? Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, nid menywod yn unig sy’n dioddef. Mae gwybodaeth dda ar y wefan ganlynol: http://www.braveeip.org.uk/wpcontent/uploads/2016/04/CalanDVSBooklet.pdf

5

Dw i’n 17 oed a dyma fy mherthynas pwysig gyntaf. Dechreuon ni berthynas rhywiol yn eithaf cyflym, roeddwn i’n teimlo fel taw dyma beth mae’n rhaid i fi wneud fel ei gariad. Mae pethau wedi newid rhyngom ni, mae fy nghariad wedi dechrau dweud wrthyf beth i wneud.

Dechreuais i wneud esgusodion er mwyn osgoi cael rhyw ond mae’n dweud bod hawl gyda fe i gael rhyw gyda fi. Dydw i ddim wir yn deall ond dydw i ddim yn meddwl dylai pethau fel hyn digwydd mewn perthynas.

Cyngor

Dylai neb gael eu gorfodi i wneud rhywbeth dydyn nhw ddim eisiau gwneud. Cam-drin rhywiol ydy rhoi pwysau ar rywun i gael rhyw. Pan rwyt yn cytuno i gyfathrach rywiol dylai hynny fod heb unrhyw bwysau. Mae unrhyw weithred rywiol heb ganiatâd yn anghyfreithlon. Beth am geisio’r camau canlynol? Siarad gyda dy bartner ac â ffrind rwyt ti’n ymddiried ynddynt er mwyn cael cyngor.

Os nad ydy dy bartner yn gwrando beth am gynllunio strategaeth ymadael e.e. cer i’r tŷ bach a gofyn i ffrind i dy alw. Os wyt ti’n teimlo fel dy fod mewn perygl o unrhyw fath mae’n bwysig dy fod yn dianc o’r sefyllfa cyn gynted â phosib.

Cofia, gallet alw ChildLine ar 0800 1111 neu fynd i www.bishuk.com am help a chyngor.

Gwir neu Gau? Adnabod y ffeithiau am berthynas iach a cham-drin domestig.

1
Mae rhai pobl yn cwympo allan yn aml – ond nid yw pobl yn cwympo allan mewn perthynas iach

Mae pobl mewn perthynas yn cwympo allan am bethau gwahanol – hyd yn oed  pobl mewn perthynas hapus a chariadus. Er hyn, mae dadlau cyson mewn perthynas yn afiach ac weithiau, mae’n arwain at gam-drin domestig. Mae cwympo allan a cham-drin yn hollol wahanol. Mae cam-drin domestig yn digwydd pan mae ymddygiad treisgar yn bodoli, mewn ffordd gorfforol, rhywiol, emosiynol neu seicolegol. Mae person yn cam-drin partner gan wneud y pethau hyn er mwyn rheoli.

 

2
Mae cam-drin domestig bob amser yn gorfforol.

Nid yw bob amser yn gorfforol. Yn aml, mae cam-drin domestig yn cynnwys digwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, cymell neu fygwth neu achosion o drais neu gam-drin rhwng rhai 16 blwydd oed neu’n hŷn, yn cynnwys cam-drin emosiynol,seicolegol, rhywiol neu ariannol.

3
Mae menywod yn gallu cam-drin ac mae cam-drin yn digwydd mewn perthynas un rhyw, ond yn aml iawn mae nifer o fenywod yn cael eu cam-drin gan ddynion mewn perthynas.

Menywod yn bennaf yw’r dioddefwyr – mae 95% o’r dioddefwyr wedi cael eu cam-drin gan ddyn.

4
Ar ôl i chi gwrdd â’r person iawn, byddwch yn hapus yn gyson ac am byth.

Yn amlwg, byddwch yn hapus gyda rhywun sy’n gofalu ac yn eich trin yn dda ond bydd hefyd cyfnodau pan ydych yn teimlo’n anhapus neu yn drist. Mae’n rhaid eich bod yn hapus gyda chi eich hunain – ni ddylech ddibynnu ar rywun arall i roi pwrpas i chi.

5
Arwydd o gariad yw bod yn genfigennus. Nid yw partner yn poeni amdanoch os nad ydyn nhw’n genfigennus .

Nid yw cenfigen yn dangos faint mae person yn caru rhywun arall. Ni fydd partner yn teimlo’n genfigennus neu yn gwneud i chi deimlo’n genfigennus am ddim rheswm mewn perthynas iach. Gofynnwch: Pam mae fe/hi’n genfigennus? Os ydy rhywun yn genfigennus neu ddim yn ymddiried ynddoch, perthynas afiach yw hwn. Nid cariad yw hwn chwaith!

6
Mae pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn meddwl taw nhw sydd ar fai.

Mae llawer o bobl yn meddwl taw nhw sydd ar fai am achosi’r trais. Nid ydy unrhyw un ar fai am gael eu cam-drin gan eu partner.

7
Mae’n rhwydd i adael perthynas afiach pan mae cam-drin yn digwydd.

Mae’n gallu bod yn anodd iawn i adael perthynas afiach. Ym aml iawn mae menywod yn fwy tebygol o gael niwed gan y camdriniwr.

8
Mae menyw yn fwy tebygol o gael ei cham-drin yn gorfforol pan maent yn feichiog.

Mae tua 1/3 o fenywod yn cael eu cam-drin. Mae cam-drin corfforol yn gallu digwydd neu waethygu pan mae menyw yn disgwyl babi.

9
Mae pobl yn cam-drin gan nad ydyn nhw’n gallu rheoli tymer. Mae alcohol a chyffuriau hefyd yn gwneud iddynt fod yn dreisgar.

Mae person yn cam-drin person arall er mwyn cael pŵer a rheoaleth drostynt. Maent yn bygythio ac ymddwyn yn dreisgar i wneud hyn. Mae’r person eisiau’r rheolaeth. Mae nifer o bobl yn ymddwyn yn dreisgar pan nad ydyn nhw wedi meddwi o gwbl. Mae alcohol a chyffuriau yn gallu arwain at ddigwyddiad ond nid ydyn nhw’n achosi cam drin domestig.

10
Nid yw cam-drin yn effeithio plant os nad ydyn nhw wedi gweld e.

Os mae problemau fel hyn yn bodoli mewn teulu, bydd yn effeithio ar bawb. Mae’n gallu cael effaith negyddol ar sut mae’r plant yn teimlo ac yn ymddwyn ac yn arwain at iselder, gweiddi a newid yn eu hymddygiad.

Mae plant a phobl ifanc yn tystio i nifer uchel o ddigwyddiadau yn y cartref, gyda oddeutu 60 – 80% o’r digwyddiadau yn gam-drin domestig.

Holiadur perthynas

Dod o hyd i gymorth

Fideos i’w gwylio