Cymuned yr ysgol
Mae Prosiect Sbectrwm yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei darparu gan athrawon profiadol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae Prosiect Sbectrwm yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei darparu gan athrawon profiadol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r gweithdai dwyieithog, sy’n rhad ac am ddim, wedi’u cysylltu’n agos â’r Adran Ddysgu Iechyd a Lles y cwricwlwm drafft newydd i Gymru 2022 ac maent yn hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth am faterion cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’r gweithgareddau diddorol hyn wedi’u cynllunio er mwyn peri i rywun feddwl ac i hyrwyddo trafodaeth ymhlith cyfoedion, ond nid yw’n fwriad i ennyn emosiwn a fydd yn achosi gofid.
Mae diwedd bob sesiwn yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc o ran lle y gallant gael help a chefnogaeth yn yr ysgol a thu hwnt. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer staff a llywodraethwyr yr ysgol ynglŷn â deall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn codi ymwybyddiaeth trwy edrych ar ddull ysgol gyfan i fynd i’r afael â cham-drin domestig.
Yn ogystal â hyn, mae Prosiect Sbectrwm yn cynnig Rhaglen Addysg Cyfoedion gydag ysgolion cynradd ar y thema: diogelwch. Ar ôl y sesiynau, bydd y plant hynaf yr ysgol wedi dysgu sut i gyfleu’r negeseuon pwysig i blant ieuengaf yr ysgol mewn digwyddiad Addysg Cyfoedion.
Mae Arolygiad Estyn o Addysg Perthnasoedd Iach yn 2017 yn cynnwys gwybodaeth am Brosiect Spectrwm ac mae Estyn yn argymell fod ysgolion yn gweithio gyda Sbectrwm fel arfer gorau mewn Addysg Perthynas Iach.
Ar ddiwedd ymweliad Sbectrwm ag ysgol rydyn ni’n darparu gwybodaeth am ble gall plentyn dod o hyd i gymorth a chefnogaeth.
Pe bai ddatgeliad gan blentyn yn ystod un o’n hymweliadau, byddwn yn dilyn y gweithdrefnau canlynol:
Beth all staff sy’n gweithio tu allan i’r dosbarth gwneud i gefnogi plant/pobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin? Sut allech gyflawni hyn?
Dyma restr o wefannau a chymdeithasau sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer plant, rhieni a llywodraethwyr.
https://www.ceop.police.uk/safety-centre/ – Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein
http://threshold-das.org.uk/ – Threshold DAS
https://llyw.cymru/byw-heb-ofn Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru Gyfan
https://actionforchildren.org.uk
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=10114
Taflen Wybodaeth ar gyfer Llywodraethwyr
Llyfren gwybodaeth Rhieni a gwarcheidwaid gynradd
Llyfren gwybodaeth Rhieni a gwarcheidwaid uwchradd
Nodau ac amcanion Cyflwyniad i rieni, gwarcheidwaid a lywodraethwyr
Map Prosesau Diogelu Sbectrwm
Os ydy’r Swyddog Cyswllt Ysgolion yn poeni am blentyn, rhaid i bob aelod o staff dilyn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant yr ysgol.
Pan fydd plentyn/person ifanc yn datgelu cam-drin domestig, mae’n debygol iawn fod:
Os oes ddatgeliad:
Ar ôl ddatgeliad:
Cymdeithasau cymunedol eraill sy’n cynnig cymorth:
Gwelwch ein gwefan ar gyfer rhestr A-Y o gymdeithasau cymunedol ym mhob ardal.
FTystebau staff
Staff cynradd ar ol sesiwn disgybion
Would you recommend this sessions to other schools?
Staff uwchradd ar ol sesiwn disgyblion: