Staff yr ysgol
Mae Prosiect Sbectrwm yn raglen Cymru gyfan sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei ddarparu gan addysgwyr cymwys.
Mae Prosiect Sbectrwm yn raglen Cymru gyfan sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei ddarparu gan addysgwyr cymwys.
Mae’r gweithdai dwyieithog, sy’n rhad ac am ddim, wedi’u cysylltu’n agos â’r Adran Ddysgu Iechyd a Lles y cwricwlwm drafft newydd i Gymru 2022 ac maent yn hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth am faterion cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’r gweithgareddau diddorol hyn wedi’u cynllunio er mwyn peri i rywun feddwl ac i hyrwyddo trafodaeth ymhlith cyfoedion, ond nid yw’n fwriad i ennyn emosiwn a fydd yn achosi gofid.
Mae diwedd bob sesiwn yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc o ran lle y gallant gael help a chefnogaeth yn yr ysgol a thu hwnt. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer staff a llywodraethwyr yr ysgol ynglŷn â deall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn codi ymwybyddiaeth trwy edrych ar ddull ysgol gyfan i fynd i’r afael â cham-drin domestig.
Mae Arolygiad Estyn o Addysg Perthnasoedd Iach yn 2017 yn cynnwys gwybodaeth am Brosiect Spectrwm. Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o sut y gall Prosiect Sbectrwm weithio’n llwyddiannus gyda ysgolion i ymgorffori Perthnasoedd Iach yn y cwricwlwm.
Mae gennym adnoddau a gweithgareddau ychwanegol sy’n cyd-fynd â’r Adran Ddysgu Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru.
Mae pob cynllun gwers ac adnodd yn cynnwys gwybodaeth berthnasol i athrawon ynglŷn â sut mae pob un yn cyfateb i’r adrannau profiad dysgu canlynol:
Mae pob un hefyd yn cynnwys gosodiad ar y Dull Ysgol Gyfan.
Mae Mawrth 8fed yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, beth am ddefnyddio ein pecyn gwasanaeth i nodi’r achlysur yn eich Ysgol!
Mae’r gweithgareddau yn cael eu hanelu at y Cyfnod Sylfaen hyd at CA3/4, er enghraifft gweithgaredd gyda ffocws ar fod yn ddiogel a phryd i ffonio 999, perthynas iach, gemau beth sy’n wahanol, gemau bwrdd, cwis a thasgau fel ‘Creu Rysáit am Berthynas Iach’.
Mae gan Sbectrwm Adnoddau ‘Cydraddoldeb ar sail Rhywedd’. Adnodd newydd dwyieithog yw hwn ynglŷn â stereoteipio. Nod y gweithgareddau yw herio’r stereoteip a hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Bydd hyn yn cael ei gynnig i ysgolion cynradd. Yn y pecyn bydd:
Fel y sesiynau rydym yn cynnig i ysgolion, nod yr adnoddau a gweithgareddau hynny yw cefnogi dysgwyr ac athrawon wrth iddynt ddechrau gweithredu ar y cwricwlwm newydd.

Cynnwys yr Hyfforddiant:
Pwy ddylai fynychu’r hyfforddiant?
Hyd:
Y mae’r holl hyfforddiant ar gael am ddim ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Pamffledi Hyfforddiant Staff:
Pamffled Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod – FGM
Pamffled Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth Fodern – HTMS
Pamffled Cam-drin ar Sail Anrhydedd – HBA
Pamffled Priodasau Dan Orfod – FM
Rydym bellach wedi creu pecyn hyfforddi newydd arbennig i ysgolion o’r enw ‘Delio gyda Datgeliad: Cefnogi Disgyblion.’ Mae’r pecyn wedi ei gynhyrchu i helpu athrawon a staff yr ysgol:
Mae’r pecyn yn cynnwys:
Rhoddir llyfrau gwaith i ysgolion ar ôl cwblhau’r hyfforddiant i staff. Gellir dod o hyd i’r holl adnoddau eraill ar ein gwefan. Cysylltwch â ni i drefnu hyfforddiant.
Hyfforddiant staff:
Staff cynradd ar ol sesiwn disgybion:
Would you recommend this sessions to other schools?
Staff uwchradd ar ol sesiwn disgyblion: