Spectrum

Cuddio-Tudalen@2x

Disgyblion cynradd

BETH YW CAM-DRIN?

Cam-drin yw’r gair sy’n disgrifio pan nad yw person yn cael ei drin yn y ffordd gywir. Mae sawl math o gam-drin ac mae cam-drin yn gallu cynnwys ymddygiad amharchus tuag at berson neu gam-drin corfforol. Bwli yw person sy’n cam-drin. Yn aml iawn, mae’r cam-drin yn cael ei wneud gan berson y mae’r dioddefwr yn ei hadnabod yn dda, er enghraifft, aelod o’r teulu. Mae cam-drin yn annerbyniol yn enwedig pan nad oes modd gan y dioddefwr amddiffyn ei hunan.

Un math o gam-drin yw Cam-drin Domestig. Pan mae cam-drin yn digwydd o fewn teulu rhwng oedolion, cam-drin domestig yw e. Mae Cam-drin Domestig yn disgrifio patrwm o ddigwyddiad neu ymddygiad sy’n rheoli rhwng 2 oedolyn mewn perthynas 16 blwydd oed neu’n hŷn. Mae’n digwydd pan mae un person eisiau Pŵer a Rheolaeth dros eraill.

GWYBODAETH A CHYNGOR I BOBL IFANC AR BERTHNASOEDD IACH

Mae sawl math o Berthynas a’r ffordd rydym yn siarad ac yn actio gyda’r bobl yn y perthnasoedd hyn yn effeithio arnom ni.

Mae gennym berthnasoedd â:

  • Teulu
  • Ffrindiau
  • Athrawon
  • Partneriaid

Mae’r perthnasoedd i gyd yn effeithio arnom ni mewn ffordd bositif neu mewn ffordd negyddol.

DYMA RAI O’R PETHAU POSITIF AM BERTHNASOEDD:

  • Gwneud i chi deimlo eich bod yn perthyn ac yn werthfawr
  • Gwella’ch hyder
  • Pobl yn deall, parchu, ymddiried ac yn gofalu
  • Cefnogi chi a’ch syniadau wrth wneud pethau newydd neu yn trafod eich barn
  • Rhannu diddordebau/hobïau
  • Rhoi lle diogel i aros ac i ddysgu amdanoch chi eich hunan
  • Yn helpu i ystyried pobl eraill.
Spectrum Ted and Spectrum Hero Together

MAE’R PETHAU HYN YN BWYSIG MEWN PERTHNAS IACH:

  • Parch – Neb yn gwneud i chi golli hyder, mae’r hawl gan y ddau ohonoch fynegi barn, i wrando ac i ddweud beth ydych yn meddwl a theimlo
  • Ymddiried – Fydd y ddau ohonoch ddim yn cario clecs am y llall neu ddweud celwyddau am y llall
  • Diogelwch – Teimlo’n ddiogel ac allan o niwed
  • Gwerth – Rydych yn teimlo’n werthfawr ac rydych yn gwerthfawrogi‘r person arall.
  • Empathi – Gwrando ac yn deall ei gilydd, rhannu teimladau ac yn cydymdeimlo gyda sefyllfa’r person arall.

CYNLLUN DIOGELWCH

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel ac allan o berygl. Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn y cartref mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i wneud i aros yn ddiogel.

  • Cadwch eich hunan allan o’r ymladd
  • eidiwch â chuddio mewn lle bach, ble allech gael niwed
  • Dylech wybod sut i ffonio’r heddlu
  • Dylech wybod eich cyfeiriad
  • Dylech wybod am rywle diogel i fynd os oes rhaid angen y tŷ.

Bydd cynllun diogelwch yn eich helpu gyda hynny. Argraffwch y cynllun yma. Llanwch y daflen gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddynt, fel athro, aelod o’r teulu neu gymydog.

GWEITHGAREDDAU HWYL

Gweithgareddau 3-7 oed

Beth sy’n wahanol – Ted

Lliwio Tedi Sbectrwm

Gweithgareddau 7 – 11 oed

CA2 Gem Bwrdd Perthynas

CA2 Beth sy’n wahanol – Arwr

Cysylltiadau i wefannau defnyddiol a llinellau cymorth sy’n cynnig cymorth:

Childline Cymorth ar gyfer pobl ifanc. https://www.childline.org.uk/ 0800 1111

Samaritans Elusen unigryw sy’n helpu i leihau teimladau o unigrwydd a datgysylltiad sy’n gallu arwain at hunanladdiad. https://www.samaritans.org/?nation=wales 116 123

Meic Cymru Llinell gymorth sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac adfocatiaeth ar gyfer pobl ifanc. https://www.meiccymru.org/ 080880 23456 Text: 84001

NSPCC Cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ac unrhyw un sy’n poeni am blentyn. https://www.nspcc.org.uk/ 0808 800 5000

Holiadur Teimlo’n Ddiogel

Fideos i'w gwylio