Disgyblion cynradd
BETH YW CAM-DRIN?
Cam-drin yw’r gair sy’n disgrifio pan nad yw person yn cael ei drin yn y ffordd gywir. Mae sawl math o gam-drin ac mae cam-drin yn gallu cynnwys ymddygiad amharchus tuag at berson neu gam-drin corfforol. Bwli yw person sy’n cam-drin. Yn aml iawn, mae’r cam-drin yn cael ei wneud gan berson y mae’r dioddefwr yn ei hadnabod yn dda, er enghraifft, aelod o’r teulu. Mae cam-drin yn annerbyniol yn enwedig pan nad oes modd gan y dioddefwr amddiffyn ei hunan.
Un math o gam-drin yw Cam-drin Domestig. Pan mae cam-drin yn digwydd o fewn teulu rhwng oedolion, cam-drin domestig yw e. Mae Cam-drin Domestig yn disgrifio patrwm o ddigwyddiad neu ymddygiad sy’n rheoli rhwng 2 oedolyn mewn perthynas 16 blwydd oed neu’n hŷn. Mae’n digwydd pan mae un person eisiau Pŵer a Rheolaeth dros eraill.