Spectrum

Cuddio-Tudalen@2x

Cymuned yr ysgol

Mae Prosiect Sbectrwm yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei darparu gan athrawon profiadol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae’r gweithdai dwyieithog, sy’n rhad ac am ddim, wedi’u cysylltu’n agos â’r Adran Ddysgu Iechyd a Lles y cwricwlwm drafft newydd i Gymru 2022 ac maent yn hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth am faterion cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’r gweithgareddau diddorol hyn wedi’u cynllunio er mwyn peri i rywun feddwl ac i hyrwyddo trafodaeth ymhlith cyfoedion, ond nid yw’n fwriad i ennyn emosiwn a fydd yn achosi gofid.

Mae diwedd bob sesiwn yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc o ran lle y gallant gael help a chefnogaeth yn yr ysgol a thu hwnt. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer staff a llywodraethwyr yr ysgol ynglŷn â deall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn codi ymwybyddiaeth trwy edrych ar ddull ysgol gyfan i fynd i’r afael â cham-drin domestig.

Yn ogystal â hyn, mae Prosiect Sbectrwm yn cynnig Rhaglen Addysg Cyfoedion gydag ysgolion cynradd ar y thema: diogelwch. Ar ôl y sesiynau, bydd y plant hynaf yr ysgol wedi dysgu sut i gyfleu’r negeseuon pwysig i blant ieuengaf yr ysgol mewn digwyddiad Addysg Cyfoedion.

Mae Arolygiad Estyn o Addysg Perthnasoedd Iach yn 2017 yn cynnwys gwybodaeth am Brosiect Spectrwm ac mae Estyn yn argymell fod ysgolion yn gweithio gyda Sbectrwm fel arfer gorau mewn Addysg Perthynas Iach.

Poeni am blentyn - Tudalen Gwybodaeth ar gyfer Llywodraethwyr a Rhieni

Ar ddiwedd ymweliad Sbectrwm ag ysgol rydyn ni’n darparu gwybodaeth am ble gall plentyn dod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

Pe bai ddatgeliad gan blentyn yn ystod un o’n hymweliadau, byddwn yn dilyn y gweithdrefnau canlynol:

  • Cwblhau Ffurflen Pryderon
  • Trosglwyddo’r wybodaeth i’r Swyddog Diogelu Plant
  • Sicrhau bod y ffurflen wedi’i arwyddo a dyddio.

 

Beth all staff sy’n gweithio tu allan i’r dosbarth gwneud i gefnogi plant/pobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin? Sut allech gyflawni hyn?

  • Cydnabod a bod yn ymwybodol o arwyddion Cam-drin Domestig
  • Adrodd am unrhyw bryderon, hyd yn oed rhai bach, i’r Uwch Swyddog Dynodedig / Swyddog Diogelu Plant
  • Mynychu hyfforddiant ar Gam-drin Domestig
  • Dylai llywodraethwyr arwain a chefnogi Ymateb Ysgol Gyfan i fynd i’r Afael a Cham-drin Domestig
  • Annog digwyddiadau hyfforddi am Gam-drin Domestig ar gyfer holl lywodraethwyr a rhieni

 

Poeni am ddisgybl

Os ydy’r Swyddog Cyswllt Ysgolion yn poeni am blentyn, rhaid i bob aelod o staff dilyn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant yr ysgol.

Pan fydd plentyn/person ifanc yn datgelu cam-drin domestig, mae’n debygol iawn fod:

  • nifer o ddigwyddiadau wedi bod
  • y plentyn/person ifanc eisiau i’r cam-drin domestig ddod i ben
  • fod y plentyn/person ifanc yn ymddiried yn y person y gwnaed y datgeliad iddo/i.

Os oes ddatgeliad:

  • gwrandewch ar y plentyn/person ifanc
  • peidiwch â holi’r disgybl na gofyn iddyn nhw ailadrodd
  • peidiwch â gofyn unrhyw gwestiynau arweiniol, gallent beryglu erlyniad presennol neu yn y dyfodol
  • osgowch dorri ar draws pan fydd y plentyn yn adrodd am ddigwyddiad
  • peidiwch ag awgrymu unrhyw esboniad gwahanol
  • gwiriwch pa mor ddiogel mae’r plentyn yn teimlo nawr ac yn gyffredinol a gofynnwch am gynlluniau sydd ganddyn nhw ar gyfer gweddill y diwrnod.

Ar ôl ddatgeliad:

  • peidiwch a gaddo cyfrinachedd i’r disgybl. Os mae nhw wedi profi cam-drin domestig rhaid adrodd hynny i’r Swyddog Dynodedig Uwch ar gyfer Amddiffyn Plant (DSP)
  • esboniwch i’r disgybl beth fydd yn digwydd nesaf, hynny yw bod rhaid hysbysebu’r Swyddog Dynodedig Uwch
  • esboniwch fod rhaid cofnodi’r wybodaeth. Cofnodwch y manylion yn ofalus ar Ffurflen Pryderon Sbectrwm gan gynnwys manylion am amser, lleoliad, pwy oedd yn bresennol, beth ddywedodd y disgybl a beth ddigwyddodd nesaf
  • dywedwch wrth y disgybl taw’r Swyddog Diogelu Plant yn unig fydd yn cael gwybod yn y lle cyntaf: ar ôl hynny os bydd angen i unrhyw un arall gwybod am resymau sy’n ymwneud â diogelu bydd y disgybl yn cael gwybod.

Pa gymdeithasau statudol sy’n cefnogi pobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin?

  • Heddlu
  • Gwasanaethau Plant
  • Addysg Awdurdod Lleol
  • Swyddogion Cam-drin Domestig
  • Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)

 

Cymdeithasau cymunedol eraill sy’n cynnig cymorth:

  • Hafan Cymru
  • Relate Cymru
  • Threshold DAS
  • Dewis

Gwelwch ein gwefan ar gyfer rhestr A-Y o gymdeithasau cymunedol ym mhob ardal.

Tystebau staff

FTystebau staff

  • ‘Concise, informative and well presented.’
  • ‘Helpful to identify what the school is doing and where we need to improve.’
  • ‘Important to recognise the signs of abuse.’
  • ‘Raising awareness and promoting discussion.’
  • ‘Very useful and practical all children and staff should be aware of the signs/symptoms of Domestic Abuse.’
  • ‘It helps children to become aware of what is healthy and may help them come forward and say if they feel something is wrong.’
  • ‘The delivery was clear, excellent resources. Questions were answered well. Friendly atmosphere.’
  • ‘Important and useful information in identifying Domestic Abuse and how it can affect behaviours in the children I teach.’
  • ‘Very informative session – lots learned in a short amount of time.’
  • ‘Very informative training. Activities enabled discussion about signs to watch out for and the various types of abuse.’
  • ‘Hyfforddiant pwysig I bob unigolyn fod yn ymwybodol o.’
  • ‘Wedi codi ymwybyddiaeth o arwyddion cam-drin domestig a’r effaith ar blant. Hyfforddiant gwych – cyfleoedd i drafod a dosbarthu datganiadau.’
  • ‘Ehangu gwybodaeth staff o gam-drin.’
  • ‘Codi mwy o ymwybyddiaeth o arwyddion cam-drin domestig yn y cartref.’
  • ‘Provides strategies which can be put in place to support the while school approach.’
  • ‘Very clear and informative, very well presented. Some statistics surprised and shocked me.’

Staff cynradd ar ol sesiwn disgybion

Would you recommend this sessions to other schools?

  • Yes – ‘Because it is a vitally important topic to cover and pupils need to know this.’
  • Yes – ‘Children need to be aware of Healthy Relationships and what is acceptable before they get into relationships themselves.’
  • Yes – ‘It helps to raise the children’s awareness of domestic abuse and what a positive relationship looks like.’
  • Yes – ‘Because it is very informative.’
  • Yes – ‘Not all staff aware. Many people together can make a huge difference.’

Staff uwchradd ar ol sesiwn disgyblion:

  • Very thought provoking and set out well for students to understand such a sensitive area.’
  • Informative and practical. Good use of activities to break up session and keep students engaged.’