Spectrum

Cuddio-Tudalen@2x

Prosiect Sbectrwm

Fel rhan o ymgyrch y Llywodraeth yng Nghymru i leihau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol mae’r Prosiect Sbectrwm gan Hafan Cymru yn cael ei hariannu gan Llywodraeth Cymru i gynnal sesiynau ar Perthnasau Iach a holl testunau drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Mae sesiynau Sbectrwm yn:

  • Hyrwyddo pwysigrwydd perthnasau iach a chodi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a’i heffeithiau
  • Gynllun Cymru gyfan a chyflwynir gan athrawon cymwysedig, yn y Gymraeg neu’r Saesneg ac mae’r holl adnoddau yn ddwyieithog.
  • Mae’r sesiynau cynradd yn draws cwricwlaidd ac wedi eu cynllunio i hybu trafodaeth cyfoedion drwy ddefnyddio ystod eang o dechnegau
  • Ceisio hybu gwell dealltwriaeth o’r pwnc,ac nid achosi unigolyn i gynhyrfu. Mae’r sesiynau wedi eu cynllunio i hybu trafodaeth nid datgeliad.
  • Mae diwedd pob sesiwn yn cynnig gwybodaeth ynglŷn â ble all pobl ifanc fynd am gefnogaeth a chymorth yn yr ysgol a’r tu allan, gan gynnwys ChildLine.

Mae Sbectrwm yn cynnig hyfforddiant i staff ysgolion, rhieni, gwarcheidwaid a Llywodraethwyr ar:

  • godi ymwybyddiaeth o gam-drin,
  • deall oblygiadau cam-drin domestig ar blentyn
  • ffurfiau ysgol gyfan o ddelio â Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.